

Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes
Mae’r byd gwaith yng Nghymru a’r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog. Mae’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o’r byd academaidd a’r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocâd a rôl y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rôl gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau''r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau’n ddwyieithog? Beth yw rôl y Llywodraeth a''r Comisiynydd Iaith yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisïau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru?
- Redaktör
- Rhiannon Heledd Williams, Rhianedd Jewell
- ISBN
- 9781786838810
- Språk
- Welsh
- Utgivningsdatum
- 2022-07-15
- Tillgängliga elektroniska format
- PDF - Adobe DRM
- Läs e-boken här
- E-boksläsare i mobil/surfplatta
- Läsplatta
- Dator
