Gå direkte til innholdet
Diwinyddiaeth Paul
Spar

Diwinyddiaeth Paul

Cyflwynir yn y gyfrol hon holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a’i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a’i alwad apostolaidd, a’i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a’r ‘Pethau Diwethaf’; a thrafodaeth ar gyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae’r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae’n amlygu hefyd gyfraniad ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad, i astudiaethau Paulaidd.
Undertittel
Gan Gynnwys Sylw Arbennig i'w Ddehonglwyr Cymreig
ISBN
9781786835321
Språk
Valisisk
Vekt
310 gram
Utgivelsesdato
15.4.2020
Antall sider
240