Gå direkte til innholdet
Thomas Pennant
Thomas Pennant
Spar

Thomas Pennant

Valisisk
Les i Adobe DRM-kompatibelt e-bokleserDenne e-boka er kopibeskyttet med Adobe DRM som påvirker hvor du kan lese den. Les mer
Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno'r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r teithiwr o Sir y Fflint, ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Er gwaethaf ei fri rhyngwladol yn ei ddydd, esgeuluswyd Pennant yn ddiweddarach gan ei gydwladwyr mewn cof niwlog fel 'teithiwr'. Cynigir yma ddarlun mwy cymhleth sy'n cydnabod ei le fel un o feddylwyr polymathig yr Oleuedigaeth, a'i ddiddordebau'n rhychwantu byd natur, celf a hynafiaethau. Edrychir ar y Cymry allweddol a ddylanwadodd ar ei waith - o Forrisiaid Mon, sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion, hyd at John Lloyd, rheithor rhadlon Caerwys, a'r artist Moses Griffith o Ben Llyn. Wrth bendroni sut y ciliodd Pennant o olwg ei gyd-Gymry, ystyrir argyfwng adroddiad y Llyfrau Gleision a'r wleidyddiaeth ieithyddol a ddaeth yn ei sgil, cyn ymddangosiad cyfieithiad llawn yn y Gymraeg o'r Teithiau yng Nghymru, ganrif wedi marwolaeth yr awdur.Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu dan y Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0. I weld copi o'r drwydded hon, ewch i: http://creativecommons.org/licenses/bync-nd/4.0/ neu anfonwch lythyr at Creative Commons, PO Box 1866, Mountain View, CA 94042, UDA.
Undertittel
Cysylltiadau Cymreig
ISBN
9781837722938
Språk
Valisisk
Utgivelsesdato
15.8.2025
Tilgjengelige elektroniske format
  • Epub - Adobe DRM
Les e-boka her
  • E-bokleser i mobil/nettbrett
  • Lesebrett
  • Datamaskin