

Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn
Sut mae ysgrifennu drama ‘genedlaethol’ mewn cenedl ddwyieithog a diwladwriaeth? A yw ymdrech dramodwyr yr 1990au i ddychmygu cenedl amgen ac annibynnol ar lwyfan wedi pylu ers datganoli? Sut y mae lleiafrifoedd eraill wedi dygymod â heriau’r oes honedig ôl-fodern ac ôl-genedlaethol hon, ac a oes gan eu profiadau wersi i Gymru? Dyma rai o’r cwestiynau y mae nifer o arloeswyr y ddrama Gymraeg gyfoes yn ymhél â nhw yn y gyfrol ddiweddaraf hon yng nghyfres Safbwyntiau. Mae Llwyfannu’r Genedl Anghyflawn yn gasgliad heriol o ysgrifau, wedi ei guradu a’i olygu gan un o’n dramodwyr mwyaf blaengar.
- Undertittel
- Iaith a Hunaniaeth yn y Theatr Gymraeg
- Redaktør
- Ian Rowlands
- ISBN
- 9781837720293
- Språk
- Valisisk
- Utgivelsesdato
- 15.7.2023
- Tilgjengelige elektroniske format
- PDF - Adobe DRM
- Les e-boka her
- E-bokleser i mobil/nettbrett
- Lesebrett
- Datamaskin
