Gå direkte til innholdet
Gras, Gobaith a Gogoniant
Spar

Gras, Gobaith a Gogoniant

Valisisk
Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ? thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.
Undertittel
Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan
ISBN
9781837721986
Språk
Valisisk
Vekt
310 gram
Utgivelsesdato
15.9.2024
Antall sider
128