Gå direkte til innholdet
Gorchest Gwilym Bevan
Spar

Gorchest Gwilym Bevan

Valisisk

(Classic Welsh novel by T. Gwynn Jones)

"Roedd llais torcalonnus Mrs. Tomos, a'i geiriau gwylltion, 'Dacw fo'r dyn starfiodd fy ngŵr i; i lawr fo ' yn swnio yn eu clustiau'n barhaus..."

Mae Gwilym Bevan ar fin taflu'i hun i ddyfroedd y Tafwys pan gaiff ei achub gan ddieithryn, a chael ail gyfle ar fywyd. Dychwela i Gymru a chael gwaith yn y chwarel; a diolch i'w ddysg a'i hyfedredd caiff ei benodi'n arweinydd gan ei gyd-weithwyr. Ond buan iawn ymddengys cymylau anghydfod a gormes ar y gorwel.

Bu trydedd nofel T. Gwynn Jones yn garreg filltir yn hanes y nofel Gymraeg, ac ymhlith y nofelau Cymreig cynharaf i drafod anghydfod diwydiannol.

"Golygfa lle mae'r haearn yn mynd i enaid ydyw." -Cymru

"Nofel ag iddi neges gymdeithasol a gwleidyddol... nofel sosialaidd sy'n ymgyrchu o blaid hawliau'r gweithwyr... Caffaeliad mawr i dwf a datblygiad y nofel Gymraeg oedd nofelau cynnar T. Gwynn Jones." -Alan Llwyd

(English Description)

A classic Welsh novel with a socialist message about a quarry worker who finds himself embroiled in a strike. Part of the Llyfrgell Cymraeg Melin Bapur series of Welsh classics.

ISBN
9781739440343
Språk
Valisisk
Vekt
310 gram
Utgivelsesdato
22.1.2024
Antall sider
182