
Atgof a Cherddi Eraill
"Soniasom am y pethau ff l na ŵyr
Ond llanciau gaffael ynddynt liw na gwres,
Y pethau a gerdd ar lanw eu gwaed fin hwyr,
A phorthi heb borthi'u blys; a'u tynnu'n nes."
Hwyrach mai am Atgof y cofir Edward Prosser Rhys byth: y gerdd ryfygus, ddewr, fodern a enillodd i'r bardd goron Eisteddfod 1924
gan achosi cryn dadlau hefyd ynghylch ei chynnwys.
Mae'r gyfrol newydd hon, y cyntaf i'w chyhoeddi o farddoniaeth Rhys ers dros hanner canrif, yn gyfle o'r newydd i glywed llais un o'r cyntaf
i drafod profiadau cyfunrywiol yn y Gymraeg. Fodd bynnag, mae hefyd yn gyfle i brofi barddoniaeth bardd y mae ei waith yn bwysig ac o ansawdd uchel, bardd, hwyrach, nad yw eto wedi derbyn y sylw beirniadol y mae'n didau yn ei haeddu. Mae'n dwyn ynghyd holl gynnwys Cerddi Prosser Rhys, a gyhoeddywd yn wreiddiol ar l marwolaeth y bardd yn 1945, ynghyd ag ambell gerdd ychwanegol.
Mae'r rhagair estynedig gan Gareth-Evans Jones yn gosod y cerddi yn eu cyd-destun a'u cyflwyno i'r darllennydd.
- Forfatter
- E Prosser Rhys
- ISBN
- 9781917237321
- Språk
- Valisisk
- Vekt
- 122 gram
- Utgivelsesdato
- 11.11.2024
- Forlag
- Melin Bapur
- Antall sider
- 114
