
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt
(The first ever publication of Gwyneth Vaughan's Third Novel; with an introduction by Rosanne Reeves)
"I'r hen Gymry gynt, un o arwyddion y nefoedd ydoedd, yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai'r goleuni yn wyn, disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus, ond os goleuni coch fyddai, yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau."
Y Sgweier cyfrwys sy'n ceisio rhwydo'r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy'n hiraethu ar l ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy'n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy'n rheibio'r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs, y Sipswn, sy'n cyslltu'r rhain i gyd gyda'i gilydd-ac sydd llawer mwy iddynt na'r golwg...
Wedi'i hysgrifennu'n wreiddiol yn 1907, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae'n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed, a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves. Ynddi cawn portread celfydd o gymuned glan m r ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg: eu gofid a'u gorfoledd, eu dyheu a'u dathlu. Dyma hanes gyffrous o ddirgelwch a rhagrith, o oddefgarwch ac o faddeuant; ond gyda'r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry'r gorffennol, o'r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol.
"Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig..." -Mari Ellis
- Kirjailija
- Gwyneth Vaughan
- Toimittaja
- Adam Pearce
- ISBN
- 9781739440398
- Kieli
- walesin kieli
- Paino
- 310 grammaa
- Julkaisupäivä
- 30.4.2024
- Kustantaja
- Melin Bapur
- Sivumäärä
- 340