Sut brofiad yw bod yn fenyw ar flaen y gad mewn bywyd gwleidyddol?Darganfyddwch naratifau cymhellol menywod yn arwain y gad yng ngwleidyddiaeth Cymru drwy fenter arloesol Archif Menywod Cymru/Women''s Archive Wales. Plymiwch i gyfweliadau didwyll gydag arloeswragedd o Gynulliad Cymru, rhagflaenydd y Senedd, y llywodraeth gyntaf yn y DG i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003.O''r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o dan arweiniad Gwenda Thomas i''r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau''r Dyfodol o dan arweiniad Jane Davidson, archwiliwch storïau am eu cymhellion gwleidyddol, rôl-fodelau, a''r modd y gwnaethant lywio''r heriau o gydbwyso bywyd teuluol â chynrychiolaeth wleidyddol a''u cyfrifoldebau dinesig.Mae Gwir Gofnod o Gyfnod yn dystiolaeth hanfodol o esblygiad gwleidyddol Cymru. Fel gwaith o bwys arwyddocaol, mae nid yn unig yn talu teyrnged i lwyddiannau''r menywod hynod hyn, ond hefyd yn rhagweld dyfodol lle mae menywod o bob oed a chefndiroedd yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y dasg o lunio polisïau a llywodraethu yng Nghymru."Byddai wedi bod yn sgandal i beidio â chofnodi''r cyfweliadau cyfoethog yma gan rai arloeswragedd gwleidyddol go iawn. Heb brosiectau o''r fath byddem yn parhau i gael ein cyfyngu i weld gwleidyddiaeth drwy lens wrywaidd yn unig. Mae''r casgliad safonol a darllenadwy hwn o gyfweliadau nid yn unig yn ddifyr ond yn gyfraniad amhrisiadwy i ddeall datganoli a hanes menywod yng Nghymru hefyd." Yr Athro Laura McAllister