

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (eLyfr)
(The first ever publication of Gwyneth Vaughan''s Third Novel; with an introduction by Rosanne Reeves)
"I''r hen Gymry gynt, un o arwyddion y nefoedd ydoedd, yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai''r goleuni yn wyn, disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus, ond os goleuni coch fyddai, yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau."
Y Sgweier cyfrwys sy''n ceisio rhwydo''r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy''n hiraethu ar ôl ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy''n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy''n rheibio''r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs, y Sipswn, sy''n cyslltu''r rhain i gyd gyda''i gilydd-ac sydd â llawer mwy iddynt na''r golwg...
Wedi''i hysgrifennu''n wreiddiol yn 1907, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae''n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed, a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves. Ynddi cawn portread celfydd o gymuned glan môr ar ddechrau''r bedwaredd ganrif ar bymtheg: eu gofid a''u gorfoledd, eu dyheu a''u dathlu. Dyma hanes gyffrous o ddirgelwch a rhagrith, o oddefgarwch ac o faddeuant; ond gyda''r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry''r gorffennol, o''r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol.
"Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig..." -Mari Ellis
- Författare
- Gwyneth Vaughan
- ISBN
- 9781917237116
- Språk
- Welsh
- Utgivningsdatum
- 2024-04-18
- Tillgängliga elektroniska format
- Epub - Adobe DRM
- Läs e-boken här
- E-boksläsare i mobil/surfplatta
- Läsplatta
- Dator
