

Cof Diwylliannol yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar
Un o brif seiliau hunaniaeth genedlaethol y Cymry yn ystod y cyfnod modern cynnar oedd eu hanes – roedd eu dealltwriaeth o’u gorffennol yn cynnig iddynt amlinelliad o’r hyn a oedd yn eu diffinio. Mae’r gyfrol hon yn archwilio naratifau hanes yn ôl damcaniaeth cof diwylliannol. Wrth ystyried testunau sy’n trafod hanes y Cymry fel cof diwylliannol cenedlaethol (hynny yw, dealltwriaeth o’r gorffennol a oedd yn diffinio’r genedl Gymreig), teflir goleuni o’r newydd ar hunaniaeth Gymreig. Mewn cyfnod o newidiadau crefyddol, gwleidyddol a deallusol arwyddocaol, felly, cafodd y gorffennol Cymreig ei ail-ddyfeisio yn ôl daliadau’r awduron; ac, o graffu ar sut yr aethpwyd ati i ddiffinio’r genedl trwy gofnodi’r gorffennol, amlygir inni arwyddocâd cofio’r gorffennol.
- Författare
- Dewi Alter
- ISBN
- 9781837722419
- Språk
- Welsh
- Utgivningsdatum
- 2025-07-15
- Tillgängliga elektroniska format
- PDF - Adobe DRM
- Läs e-boken här
- E-boksläsare i mobil/surfplatta
- Läsplatta
- Dator
