
Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill
(Welsh translation of the stories of H. P. Lovecraft)
'Nid marw yw'r sawl a huna'n fythol brudd;
Daw tranc marwolaeth, hyd yn oed, ryw ddydd.'
Yr Americanwr H. P. Lovecraft yw un o lenorion pwysicaf meysydd ffuglen arswyd, ffuglen wyddonol a ffantasi. Fel yn achos Orwell a Kafka, mor wreiddiol a neilltuol yw ei arddull a'i destunau fel y bathwyd yr ansoddair Lovecraftaidd i ddisgrifio ffuglen yn yr un genre.
Mae ei straeon yn gyforiog o ddirgelwch a chyffro. Ceir ynddynt gyfrinachau sydd yn llechu ar wely'r m r... siambrau tywyll ymhell islaw'r ddaear... hen lyfrau'n cuddio cyfrinachau oes... a chreaduriaid erchyll sydd y tu hwnt i amgyffred pobl
Dyma'r tro cyntaf i ffuglen Lovecraft ymddangos yn y Gymraeg. Mae'r casgliad yn cynnwys pump o straeon enwocaf yr awdur gan gynnwys Galwad Cthulhu, stori fythgofiadwy a gyflwynodd i'r byd yr anghenfil tentaclog o'r s r, Cthulhu. Y cyfeiithydd, Peredur Glyn, yw awdur Pumed Gainc y Mabinogi a Cysgod y Mabinogi, gweithiau wedi'u hysbrydoli'n uniongyrchol gan waith H. P. Lovecraft.
- Författare
- Howard Phillips Lovecraft
- Översättare
- Peredur Glyn
- ISBN
- 9781917237406
- Språk
- Welsh
- Vikt
- 204 gram
- Utgivningsdatum
- 2025-02-01
- Förlag
- Melin Bapur
- Sidor
- 148
