Gå direkt till innehållet
Dyddiadur Anne Frank
Spara

Dyddiadur Anne Frank

Författare:
Welsh

Ganed Anne yn Frankfurt am Main, Yr Almaen, yn 1929, ond oherwydd casineb cynyddol y Natsïaid tuag at Iddewon, penderfynodd Otto ac Edith Frank, rhieni Anne a’i chwaer Margot, ffoi i Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn 1933.

Yna, ar 6 Gorffennaf 1942, wedi i’r Natsïaid oresgyn y wlad, cuddiodd y teulu mewn rhandy dirgel uwchben swyddfa Otto Frank yng nghanol y ddinas. Ychydig wythnosau yn gynt, ar ei phen-blwydd yn 13 mlwydd oed, derbyniodd Anne ddyddiadur fel anrheg a chychwynodd ysgrifennu’i dyddiadur byd enwog.

Trwy dudalennau’r gyfrol hon, a addaswyd i’r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a rhannu’r gobeithion a’r ofnau, y profiadau a’r emosiynau, a gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a’i theulu’n cuddio rhag y Natsïaid.

Författare
Anne Frank
Översättare
Eigra Lewis Roberts
ISBN
9781899869015
Språk
Welsh
Vikt
355 gram
Utgivningsdatum
2025-09-18
Sidor
277